Podlediadau
Mae un o bob pedwar ohonom ni yn y DU yn gwrando ar bodlediadau bob wythnos
Sut allwn ni helpu...
Cynhyrchiad llawn
Mae gan bawb stori wych i'w hadrodd - gadewch inni eich helpu chi i ddweud eich un chi.
Gallwn gynhyrchu cynnwys sain a fydd yn gwneud i chi, eich cwmni, brand neu gleient sefyll allan o'r dorf, adeiladu teyrngarwch brand, ac ennyn diddordeb gwrandawyr o'r cychwyn.
Bydd ein tîm profiadol o gynhyrchwyr yn gwrando ac yn deall pob nod a'ch dyheadau, yn cynhyrchu syniadau o'r cychwyn cyntaf neu'n gweithio i'ch brîff i greu cyfres o bodlediadau y byddwch yn falch ohonyn nhw, wedi'u gosod yn berffaith i'ch cynulleidfa darged.
Byddwn yn gofalu am bob manylyn, o ddatblygu cysyniadau i ysgrifennu sgriptiau a dod o hyd i dalent, hyd at recordio, golygu a chyhoeddi eich cyfres o bodlediadau. Mae hynny'n eich gadael yn rhydd i ganolbwyntio ar ddweud wrth y byd am eich cynhyrchiad diweddaraf.
Recordio a golygu
I'r sawl ohonoch sydd am yrru'r broses o wneud podlediad ond sydd angen ychydig o gymorth technegol a gwybodaeth, gallai hyn fod yn sefyllfa berffaith i chi.
Byddwn yn ymuno â chi i recordio’ch podlediad, naill ai wrth eich ochr pan fydd amgylchiadau'n caniatáu, neu o bell, i ofalu am yr holl agweddau technegol. Yna byddwn yn cipio’r sain i olygu a thacluso, gan roi pennod barod i'w chyhoeddi i chi ei rhyddhau pryd bynnag y bo hynny'n addas.
Mae'r cynnyrch hwn yn ddefnyddiol iawn i dimau brand a marchnata mewnol sy'n wych am gynhyrchu syniadau ond sydd â llawer ar eu plât ac sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o’r tu allan i lenwi'r bylchau.
Golygu
Os mai meddwl am olygu eich podlediad yw'r hyn sy'n eich dal yn ôl, neu’n hala ofn arnoch chi, neu hyd yn oed yn eich diflasu ... gadewch inni ofalu amdano ar eich rhan.
R’yn ni’n gweithio'n rheolaidd gyda chleientiaid i olygu sain maen nhw wedi recordio, gan droi eu sain amrwd yn bodlediad caboledig.
Gallwn naill ai anfon y sain orffenedig yn ôl ichi ei hunan-gyhoeddi neu, os yw'n helpu, gallwn ei rhoi ar eich platfform cartref o'ch dewis.
Felly dim mwy o esgusodion! Bellach mae gennych yr amser a'r gallu technegol wrth gefn i ddilyn eich breuddwyd! 🙂
Gwasanaethau Podlediad Ychwanegol
Does dim byd nad ydyn ni'n ei wybod neu’n gallu helpu pan ddaw'n fater o bodlediadau. Felly os nad oes gennych yr amser, yr arbenigedd na'r amynedd ar ei gyfer (dim beirniadaeth yma!) peidiwch â phoeni! Cysylltwch â ni. Dyma rai o'r pethau y gallwn helpu gyda nhw...
- Dylunio clawr a baneri i’r podlediad
- Cyrchu a gosod eich safle cynnal podlediadau
- Cofrestru eich podlediad ar y cyfeiriaduron podlediadau blaenllaw
- Eich hyfforddi i wneud eich podlediadau eich hun
- Eich hyfforddi i olygu eich podlediadau eich hun
- Llunio strategaeth podlediad ar eich cyfer
- Gwneud rhywfaint o ymgynghoriaeth podlediad i'ch cwmni
- Llunio strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich podlediad
- Ychwanegu delweddau at eich podlediad